Deuteronomium 29 BWM

1 Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.

2 A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i'w holl weision, ac i'w holl dir;

3 Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a'r rhyfeddodau mawrion hynny:

4 Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.

5 Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.

6 Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

7 A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i'n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a'u lladdasom hwynt:

8 Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a'i rhoesom yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

9 Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.

10 Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wŷr Israel,

11 Eich plant, eich gwragedd, a'th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr:

12 I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw:

13 I'th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

14 Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a'r cynghrair yma;

15 Ond â'r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â'r hwn nid yw yma gyda ni heddiw:

16 (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a'r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;

17 A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a'u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)

18 Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:

19 A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:

20 Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a'i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a'r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

21 A'r Arglwydd a'i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22 A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a'r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a'i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;

23 A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint:

24 Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?

25 Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.

26 Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.

27 Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a'r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

28 A'r Arglwydd a'u dinistriodd hwynt o'u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a'u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.

29 Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34