Deuteronomium 30 BWM

1 A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a'r felltith, y rhai a roddais o'th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y'th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt;

2 A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a'th blant, â'th holl galon, ac â'th holl enaid:

3 Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a'th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y'th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di.

4 Pe y'th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y'th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y'th gymerai.

5 A'r Arglwydd dy Dduw a'th ddwg i'r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a'i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a'th wna yn amlach na'th dadau.

6 A'r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw.

7 A'r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a'th erlidiant di.

8 Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw.

9 A'r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10 Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a'i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid.

11 Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i'r nefoedd, ac a'i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

13 Ac nid o'r tu hwnt i'r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i'r tu hwnt i'r môr, ac a'i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

14 Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i'w wneuthur ef.

15 Wele, rhoddais o'th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

16 Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau, a'i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y'th amlhaer, ac y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.

17 Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a'th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt;

18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i'w berchenogi.

19 Galw yr wyf yn dyst i'th erbyn heddiw y nefoedd a'r ddaear, roddi ohonof o'th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a'th had;

20 I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34