Deuteronomium 21 BWM

1 Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a'i lladdodd;

2 Yna aed dy henuriaid a'th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i'r lladdedig.

3 A bydded i'r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o'r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau.

4 A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn.

5 A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr Arglwydd dy Dduw a'u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.

6 A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn.

7 A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid.

8 Trugarha wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy.

9 Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o'th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd.

10 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt;

11 A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a'i bod wrth dy fodd, i'w chymryd i ti yn wraig:

12 Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;

13 A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a'i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a hithau fydd wraig i ti.

14 Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.

15 Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o'r gu a'r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o'r un gas:

16 Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig;

17 Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.

18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt:

19 Yna ei dad a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;

20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.

21 Yna holl ddynion ei ddinas a'i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

22 Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a'i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren;

23 Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a'i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd melltith Dduw sydd i'r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34