1 Nac abertha i'r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.
2 Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o'th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef,
3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;
4 Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel;
5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i'th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.
6 Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.
7 Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i'w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o'th blith.
8 Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:
9 A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.
10 A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.
11 Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu deau nac i'r tu aswy.
12 A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.
13 A'r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.
14 Pan ddelych i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a'i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:
15 Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.
16 Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i'r Aifft i amlhau meirch; gan i'r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.
17 Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.
18 A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.
19 A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a'r deddfau hyn, i'w gwneuthur hwynt:
20 Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i'r tu deau nac i'r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a'i feibion yng nghanol Israel.