Deuteronomium 12 BWM

1 Dyma 'r deddfau a'r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i'w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.

2 Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

3 Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o'r lle hwnnw.

4 Na wnewch felly i'r Arglwydd eich Duw.

5 Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o'ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:

6 A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a'ch defaid.

7 A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teuluoedd, yn yr hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.

8 Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.

9 Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i'r orffwysfa, ac i'r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

10 Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel:

11 Yna y bydd lle wedi i'r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i'w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a'ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, a'ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i'r Arglwydd.

12 A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a'ch meibion, a'ch merched, a'ch gweision, a'ch morynion, a'r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi.

13 Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a'r a welych:

14 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o'th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.

15 Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a'r glân a fwyty ohono, megis o'r iwrch a'r carw.

16 Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.

17 Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na'th win, na'th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na'th ddefaid, na'th holl addunedau y rhai a addunech, na'th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law:

18 Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

19 Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.

20 Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytâf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig.

21 Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o'th wartheg, ac o'th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.

22 Eto fel y bwyteir yr iwrch a'r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a'r glân a'i bwyty yn yr un ffunud.

23 Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â'r cig.

24 Na fwyta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr.

25 Na fwyta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i'th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd.

26 Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt, a'th addunedau, a thyred i'r lle a ddewiso yr Arglwydd.

27 Ac offryma dy boethoffrwm, (y cig a'r gwaed,) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a'r cig a fwytei di.

28 Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i'th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

29 Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned atynt i'w meddiannu, o'th flaen di, a dyfod ohonot yn eu lle hwynt, a phreswylio yn eu tir hwynt:

30 Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o'th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.

31 Na wna di felly i'r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i'w duwiau: canys eu meibion hefyd a'u merched a losgasant yn tân i'w duwiau.

32 Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega ato, ac na thyn oddi wrtho.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34