1 Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a'i ddeddfau a'i farnedigaethau, a'i orchmynion, byth.
2 A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â'ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a'i fraich estynedig;
3 Ei arwyddion hefyd, a'i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i'w holl dir;
4 A'r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i'w feirch ef, ac i'w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn:
5 A'r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i'r lle hwn;
6 A'r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a'u llyncodd hwynt, a'u teuluoedd, a'u pebyll, a'r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel.
7 Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.
8 Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu:
9 Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i'w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â'th droed, fel gardd lysiau:
11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd;
12 Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i'w wasanaethu, â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid;
14 Yna y rhoddaf law i'ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a'r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a'th win, a'th olew;
15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i'th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y'th ddigoner.
16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt;
17 Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i'ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a'ch difetha yn fuan o'r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18 Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid:
19 A dysgwch hwynt i'ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych.
20 Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;
21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i'w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;
23 Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o'ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.
24 Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o'r anialwch, a Libanus, ac o'r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.
25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a'ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych.
26 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o'ch blaen chwi heddiw fendith a melltith:
27 Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw;
28 A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o'r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch
29 Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i'r tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a'r felltith ar fynydd Ebal.
30 Onid yw y rhai hyn o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r lle y machluda'r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More?
31 Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu'r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a'i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo.
32 Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a'r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o'ch blaen chwi heddiw.