Deuteronomium 23 BWM

1 Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr Arglwydd.

2 Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd.

3 Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth:

4 Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o'r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i'th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i'th felltithio di.

5 Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi.

6 Na chais eu heddwch hwynt, na'u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

7 Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

8 Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o'r meibion a genhedlir iddynt.

9 Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.

10 O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o'r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

11 Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo'r haul, deued i fewn y gwersyll.

12 A bydded lle i ti o'r tu allan i'r gwersyll; ac yno yr ei di allan.

13 A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.

14 Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.

15 Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.

16 Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o'th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.

17 Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.

18 Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.

19 Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano.

20 Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu.

21 Pan addunedych adduned i'r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a'i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.

22 Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot.

23 Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o'th wefusau; megis yr addunedaist i'r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â'th enau.

24 Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.

25 Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â'th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34