1 Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.
2 Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
3 Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i'n Duw ni.
4 Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.
5 Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.
6 Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a'th brynwr? onid efe a'th wnaeth, ac a'th sicrhaodd?
7 Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i'th dad, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.
8 Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.
9 Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.
10 Efe a'i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad.
11 Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a'u dwg ar ei adenydd;
12 Felly yr Arglwydd yn unig a'i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef.
13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o'r graig, ac olew o'r graig gallestr;
14 Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.
15 A'r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.
16 A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd‐dra y digiasant ef.
17 Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.
18 Y Graig a'th genhedlodd a anghofiaist ti, a'r Duw a'th luniodd a ollyngaist ti dros gof.
19 Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a'u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a'i ferched.
20 Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.
21 Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â'r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â'u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.
22 Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini'r mynyddoedd ffaglu.
23 Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.
24 Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch.
25 Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a'r wyry hefyd, y plentyn sugno ynghyd â'r gŵr briglwyd.
26 Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i'w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
27 Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i'w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll.
28 Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.
29 O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!
30 Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o'u Craig hwynt, a chau o'r Arglwydd arnynt?
31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.
32 Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.
33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.
34 Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?
35 I mi y perthyn dial, a thalu'r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.
36 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o'u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig.
37 Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a'r graig yr ymddiriedasant ynddi,
38 Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.
39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o'm llaw.
40 Canys codaf fy llaw i'r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.
41 Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i'm caseion.
42 Meddwaf fy saethau â gwaed, (a'm cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a'r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn.
43 Y cenhedloedd, llawenhewch gyda'i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a'i bobl ei hun.
44 A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu'r bobl, efe a Josua mab Nun.
45 A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:
46 A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i'ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.
47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.
48 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
49 Esgyn i'r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.
50 A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl:
51 Oherwydd gwrthryfelasoch i'm herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni'm sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel.
52 Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid ei, i'r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.