Deuteronomium 19 BWM

1 Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a'i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;

2 Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w feddiannu.

3 Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.

4 Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef o'r blaen;

5 Megis pan elo un gyda'i gymydog i'r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â'r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o'r dinasoedd hyn, a byw:

6 Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a'i galon yn llidiog, a'i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a'i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o'r blaen.

7 Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti.

8 A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;

9 Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:

10 Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i'th erbyn.

11 Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o'r dinasoedd hyn:

12 Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.

13 Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.

14 Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o'r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w feddiannu.

15 Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o'r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.

16 Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;

17 Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a'r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.

18 Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;

19 Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i'w frawd: a thyn ymaith y drwg o'th fysg.

20 A'r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.

21 Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34