2 (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd Cades‐Barnea.)
3 A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt;
4 Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;
5 O'r tu yma i'r Iorddonen, yng ngwlad Moab, y dechreuodd Moses egluro'r gyfraith hon, gan ddywedyd.
6 Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:
7 Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i'w holl gyfagos leoedd; i'r rhos, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.
8 Wele, rhoddais y wlad o'ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i'w had ar eu hôl hwynt.