25 Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a'i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
26 Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw.
27 Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o'r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i'n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha.
28 I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a'n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.
30 Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;
31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i'r man yma.