29 Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.
30 Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;
31 Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i'r man yma.
32 Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,
33 Yr hwn oedd yn myned o'ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a'r dydd mewn cwmwl.
34 A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
35 Diau na chaiff yr un o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi;