34 A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,
35 Diau na chaiff yr un o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi;
36 Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a'i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i'w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd.
37 Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o'ch plegid chwi, gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.
38 Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a'i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.
39 Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a'ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a'i perchenogant hi.
40 Trowch chwithau, ac ewch i'r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.