9 A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:
10 Yr Arglwydd eich Duw a'ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
11 ( Arglwydd Dduw eich tadau a'ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a'ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)
12 Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a'ch baich, a'ch ymryson chwi?
13 Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.
14 Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.
15 Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a'u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.