8 Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.
9 Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i'r orffwysfa, ac i'r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
10 Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel:
11 Yna y bydd lle wedi i'r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i'w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a'ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, a'ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i'r Arglwydd.
12 A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a'ch meibion, a'ch merched, a'ch gweision, a'ch morynion, a'r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi.
13 Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a'r a welych:
14 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o'th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.