13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14 Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.
15 A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.
16 Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a'th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:
17 Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i'th forwyn.
18 Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a'r Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.