17 Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i'th forwyn.
18 Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a'r Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.
20 Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a'th deulu.
21 Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i'r Arglwydd dy Dduw.
22 O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a'r glân ynghyd a'i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.
23 Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.