9 Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw'r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a'i fod yn bechod i ti.
10 Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y'th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.
11 Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.
12 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.
13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14 Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.
15 A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.