1 Nac abertha i'r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.
2 Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o'th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef,
3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;
4 Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel;
5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i'th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.