1 Ni bydd i'r offeiriaid, i'r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a'i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy.
2 Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i'r offeiriad yr ysgwyddog a'r ddwy ên, a'r boten.
4 Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a'th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.
5 Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o'th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a'i feibion yn dragywydd.