13 Bydd berffaith gyda'r Arglwydd dy Dduw.
14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch
16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.
17 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant
18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.
19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a'i gofynnaf ganddo.