17 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant
18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.
19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a'i gofynnaf ganddo.
20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.
21 Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd?
22 Yr hyn a lefaro'r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a'r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a'i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.