2 Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i'r offeiriad yr ysgwyddog a'r ddwy ên, a'r boten.
4 Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a'th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.
5 Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o'th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a'i feibion yn dragywydd.
6 A phan ddelo Lefiad o un o'th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i'r lle a ddewiso yr Arglwydd;
7 Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd.
8 Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.