7 Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd.
8 Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9 Pan elych di i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd hynny.
10 Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,
11 Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â'r meirw:
12 Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o'th flaen di.
13 Bydd berffaith gyda'r Arglwydd dy Dduw.