1 Yna y troesom, ac yr aethom i'r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.
2 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf gan ddywedyd,
3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua'r gogledd.
4 A gorchymyn i'r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal.