13 Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.
14 A'r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt.
15 Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i'w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16 A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a'u marw o blith y bobloedd,
17 Lefaru o'r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd,
18 Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:
19 A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.