19 A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
20 (Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o'r blaen; a'r Ammoniaid a'u galwent hwy yn Samsummiaid:
21 Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a'r Arglwydd a'u difethodd hwynt o'u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
22 Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o'u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;
23 Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a'u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24 Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a'i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
25 Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a'th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.