2 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf gan ddywedyd,
3 Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tua'r gogledd.
4 A gorchymyn i'r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch ond ymgedwch yn ddyfal.
5 Nac ymyrrwch arnynt: oherwydd ni roddaf i chwi o'u tir hwynt gymaint â lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;
6 Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7 Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
8 Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.