22 Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o'u blaen, fel y daethant ar eu hôl hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;
23 Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Assa, y Cafftoriaid, y rhai a ddaethant allan o Cafftor, a'u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24 Cyfodwch, cychwynnwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenin Hesbon, yr Amoriad, a'i wlad ef; dechrau ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
25 Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a'th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
26 A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenin Hesbon, â geiriau heddwch, gan ddywedyd,
27 Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i'r tu deau nac i'r tu aswy.
28 Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;