27 Gad i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y briffordd y cerddaf; ni chiliaf i'r tu deau nac i'r tu aswy.
28 Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwytawyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;
29 (Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a'r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i'r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
30 Ond ni fynnai Sehon brenin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei ysbryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddiw y gwelir.
31 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a'i wlad o'th flaen di: dechrau feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.
32 Yna Sehon a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel yn Jahas.
33 Ond yr Arglwydd ein Duw a'i rhoddes ef o'n blaen; ac ni a'i trawsom ef, a'i feibion, a'i holl bobl: