33 Ond yr Arglwydd ein Duw a'i rhoddes ef o'n blaen; ac ni a'i trawsom ef, a'i feibion, a'i holl bobl:
34 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un yng ngweddill.
35 Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac ysbail y dinasoedd y rhai a enillasom.
36 O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o'r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a'r a ddihangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o'n blaen ni.
37 Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl lan afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i'r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni.