6 Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7 Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
8 Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
9 A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o'i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth
10 (Yr Emiaid o'r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
11 Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a'r Moabiaid a'u galwent hwy yn Emiaid.
12 Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o'r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a'u difethasant o'u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.)