1 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a'th ddug di i fyny o dir yr Aifft.
2 A bydd, pan nesaoch i'r frwydr, yna ddyfod o'r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,
3 A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i'r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.
4 Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â'ch gelynion trosoch chwi, ac i'ch achub chwi.