11 A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i'r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a'th wasanaethu.
12 Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.
13 Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf.
14 Yn unig y benywaid, a'r plant, a'r anifeiliaid, a phob dim a'r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 Felly y gwnei i'r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.
16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.