15 Felly y gwnei i'r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.
16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
18 Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i'w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.
19 Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i'w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i'w gosod yn y gwarchglawdd.
20 Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.