4 Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â'ch gelynion trosoch chwi, ac i'ch achub chwi.
5 A'r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.
6 A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.
7 A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.
8 Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i'w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.
9 A bydded, pan ddarffo i'r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.
10 Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch.