14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:
15 Yna cymered tad y llances a'i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i'r porth.
16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasáu y mae efe.
17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.
18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a'i cosbant ef.
19 A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.
20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: