16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasáu y mae efe.
17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.
18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a'i cosbant ef.
19 A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.
20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:
21 Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a'i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o'th fysg.
22 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.