3 Ac felly y gwnei i'w asyn ef, ac felly y gwnei i'w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i'th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4 Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.
5 Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a'r a wnêl hyn.
6 Pan ddamweinio nyth aderyn i'th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a'r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda'r cywion.
7 Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a'r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.
8 Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i'th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9 Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.