11 Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo'r haul, deued i fewn y gwersyll.
12 A bydded lle i ti o'r tu allan i'r gwersyll; ac yno yr ei di allan.
13 A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.
14 Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i'th waredu, ac i roddi dy elynion o'th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
15 Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.
16 Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o'th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.
17 Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.