1 Pan gymero gŵr wraig, a'i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o'i dŷ.
2 Pan elo hi allan o'i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall:
3 Os ei gŵr diwethaf a'i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a'i rhydd yn ei llaw hi, ac a'i gollwng hi o'i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a'i cymerodd hi yn wraig iddo:
4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a'i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i'r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.