15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.
16 Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17 Na ŵyra farn y dieithr na'r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw.
18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymryd: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo.
20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.
21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw.