6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o'i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o'th fysg.
8 Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.
9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o'r Aifft.
10 Pan fenthycieth i'th gymydog fenthyg dim, na ddos i'w dŷ ef i gymryd ei wystl ef.
11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti.
12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.