8 Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy.
9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o'r Aifft.
10 Pan fenthycieth i'th gymydog fenthyg dim, na ddos i'w dŷ ef i gymryd ei wystl ef.
11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti.
12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â'i wystl gyda thi.
13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y'th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o'th frodyr, neu o'th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: