1 Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i'w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.
2 Ac o bydd y mab drygionus i'w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.
3 Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a'i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4 Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.
6 A bydded i'r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.
7 Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i'r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i'w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.