14 Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.
15 Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
16 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a'r a wnêl anghyfiawnder.
17 Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o'r Aifft:
18 Yr hwn a'th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o'th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw.
19 Am hynny bydded, pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i'w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.