4 Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.
6 A bydded i'r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.
7 Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i'r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i'w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.
8 Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i'w chymryd hi;
9 Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i'r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd.
10 A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.