9 Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i'r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd.
10 A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.
11 Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â'i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef;
12 Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13 Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan.
14 Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.
15 Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.