11 Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i'th deulu, tydi, a'r Lefiad, a'r dieithr a fyddo yn dy fysg.
12 Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i'r Lefiad, i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
13 A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cysegredig allan o'm tŷ, ac a'i rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, i'r amddifad, ac i'r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o'th orchmynion ac nis anghofiais.
14 Ni fwyteais ohono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid, ac ni roddais ohono dros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi.
15 Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o'r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
16 Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a'r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â'th holl galon, ac â'th holl enaid.
17 Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef.