3 A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i'r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i'r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni.
4 A chymered yr offeiriad y cawell o'th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw:
5 A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i'r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
6 A'r Eifftiaid a'n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.
7 A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a'n llafur, a'n gorthrymder.
8 A'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau.
9 Ac efe a'n dug ni i'r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.